Wikipedia
Awdur Cymraeg, cerddor ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones. Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor chyngor dosbarth Dwyfor. Gwynedd. Mae yn arweinydd Seindorf Arian Trefor ers 1969 ac yn aelod o'r Seindorf ers 68 o flynyddoedd. Bu'n brifathro yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor o 1983 - 1997.
Mae o bellach yn un o brif arweinwyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn olygydd ar ei chylchgrawn digidol hi, sef Yr Utgorn, a gyhoeddir yn chwarterol ar lein ac ar grynoddisg ac a ddosberthir i'r deillion - ac i rai eraill sydd yn talu amdano. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 dyfarnwyd Medal Syr T.H. Parry-Williams iddo.
Astudiodd Geraint Jones y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr adeg y sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae ei fab, Morgan Jones, yn gyflwynydd teledu sy'n adnabyddus fel prif gyflwynydd y rhaglen chwaraeon Sgorio ar S4C. Mae hefyd yn gyflwyno sgyrsiau Yr Utgorn. Mae ei ferch, Caren, yn nyrsio.
Discography
Showing official release groups by this artist (Show official various artist release groups)